Profiadau ym Madagascar 2019

Profiadau ym Madagascar 2019

Ym mis Mai, cafodd naw ohonom sy’n gysylltiedig ag Eglwys Llanfair, Penrhys y fraint o deithio i Fadagascar. Roedd ein cyfeillion, Miara a Rebecca, sydd wedi bod yn gwasanaethu yng nghymuned Penrhys ers 2011, wedi bod yn frysur iawn yn trefnu ein hamserlen. Fe welsom llawer o arwyddion o dlodi enbyd yn ystod ein hymweliad – yn enwedig ymhlith plant, ond roeddwn yn ddiolchgar i weld arwyddion o obaith hefyd – yn arbennig yng ngwaith a thystiolaeth aelodau a gweithwyr Eglwys FJKM (Eglwys Iesu Grist ym Madagascar). Mae’r Eglwys yn helpu pobl bregus i deimlo’n bwysig – i deimlo eu bod nhw’n werthfawr ynghanol caledi eu bywydau o ddydd i ddydd.

Un peth sy’n drawiadol oedd y croeso cynnes a’r lletygarwch arbennig a brofwyd gennym yn ystod ein hymweliad.  Cawsom nifer helaeth o brofiadau diddorol dros ben a dyma rhai ohonynt:

  • ymweld a Chlwb Saesneg Eglwys FJKM Ambohidratrimo – roedd silffoedd gwag yn eu llyfrgell, felly aethon ni a chasgliad o lyfrau o Llanfair ar gyfer plant ac oedolion lleol I’w helpu i ymarfer darllen yn Saesneg;
  • cymeryd rhan mewn oedfa yn yr eglwys uchod am 6.30 y bore – yn dilyn ymarfer canu am 6 o.g.! Roedd yr eglwys yn orlawn gyda rhai pobl yn gorfod eistedd tu allan yn gwrando ar uchelseinydd.
  • swper gyda rhai o aelodau Eglwys Ambohidratrimo;
  • cwrdd a chyn-wirfoddolwyr fu gyda ni yn Llanfair dros y blynyddoedd;
  • cwrdd ag aelodau o Grwp Gristnogol Ny Ako (sy’n ymweld a Chymru bob dwy flynedd);

Fe ganon nhw Calon Lan i ni yn Gymraeg!

  • ymweld a Swyddfeydd FJKM yn y brifddinas, Antananarivo a chyfarfod y Llywydd, Pastor Ammi (a ddaeth i’r dathliadau arbennig yn Neuaddlwyd ac Aberaeron y llynedd ac sy’n awyddus i’r cysylltiad agos rhwng Llanfair ac FJKM i barhau;
  • ymweld a Chartref Akany Avoko Faravohitra (un o’r prosiectau sy’n cael ei chefnogi gan Apel Madagascar) gyda’r arweinydd Hanta Randriamalala, oedd yn wirfoddolwr ym Mhenrhys yn 2002; Mae Hanta yn berson rhyfeddol – yn llawn egni a brwdfrydedd , yn ysbrydoliaeth ac yn esiampl i bob un ohonom. Ar ol i’r merched ifainc a’r plant ganu a dawnsio, aeth Hanta a ni i’r adeilad sydd wedi cael ei hadnewyddu yn ddiweddar i fod yn gaffi a siop trin gwallt fel bod merched Akany yn mwynhau’r cyfle i gael profiad gwaith.
  • ymweld a chartref cyn-Arlywydd Madagascar, Marc Ravalomanana
  • cinio gydag aelodau o Scripture Union Madagascar;
  • ymweld ag Ysgol Ambohidratrimo, a rhyfeddu at frwdfrydedd ac ymroddiad y disgyblion a’r athrawon mewn adeilad mor llwm – heb drydan, gydag ystlumod a glaw yn dod i mewn drwy tyllau yn y to. Mae nhw’n bwriadau ail-enwi’r ysgol yn Ysgol David Griffiths;
  • ymweld a Phrosiect Ankisy gazy mewn ysgol lleol sy’n darparu brecwast a chinio am ddim i blant tlawd;
  • ymweld a Chartref Akany Avoko Ambohidratrimo;
  • cwrdd ag aelodau o Glwb Rygbi a Chlwb Peldroed Ambohidratrimo a chyflwyno peli rygbi a pheldroed iddynt fel rhoddion o aelodau Capel Mynydd Seion, Casnewydd;
  • ymweld ag Esgob Antananarivo a’i wraig;
  • ymweld a Choleg Diwinyddol FJKM;
  • taith i Andasibe – aros mewn gwesty am ddwy noson a mwynhau’r cyfle i weld cyfoeth bywyd gwyllt Madagascar fel lemurs a chrocodeilod;
  • taith i bentref Soavinandriana er mwyn ymweld a rhai o’r plant, pobl ifainc a theulu Miara a effeithiwyd gan y ddamwain bws difrifol a ddigwyddodd ym mis Awst 2017;

 

Diolch o galon i bobl Madagascar am eu haelioni a’u croeso rhyfeddol. Geson ni fel ffrindiau  o Llanfair amser fythgofiadwy, gwerthfawr ac emosiynol yn eu plith. Mae llawer gyda ni fel brodyr a chwiorydd yng Nghymru i ddysgu oddi wrthynt.  Misaotra betsaka!

Categories: Uncategorised